Holiday pricing through Dec 25, 2026: 20% off single-grant packages, 25% off annual programs. See pricing

Serving clients in the US, UK and Australia+1 (844) 400-0525

UK grant · Uchelgais Gogledd Cymru

Cynllun Grant Gwella Asedau Sector Cyhoeddus 4G+ Uchelgais Gogledd Cymru - MoD

Up to £132,500 Closes 1 July 2029

Official listing and how to apply

Source: Find a Grant (GOV.UK) · Last checked

Key facts

FunderUchelgais Gogledd Cymru
Amount per awardUp to £132,500
Total funding available£795,500
Opens8 July 2026
Closes1 July 2029 (964 days left)
Who can applyPublic sector and councils
Applicant types listedPublic Sector; Local authority
Nation or regionWales
StatusOpen
SourceFind a Grant (GOV.UK)
Last checked10 November 2026

About this grant

Summary from the official listing on Find a Grant (GOV.UK):

Mae Cynllun Grant Gwella Asedau’r Sector Cyhoeddus 4G+ yn darparu grantiau cyfalaf wedi’u targedu i sefydliadau sector cyhoeddus i uwchraddio neu ddisodli asedau presennol fel y gellir defnyddio technoleg 4G+ (4G, 5G nad yw’n annibynnol a 5G annibynnol) arnynt.

Gall gwaith cymwys gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ddisodli colofnau goleuo hen ffasiwn, gosod neu uwchraddio cyflenwadau pŵer, gosod ôl‑gludiant neu ddwythellu ffibr, gwella mynediad i strwythurau, neu atgyfnerthu strwythurau i ddarparu ar gyfer offer telathrebu.

Unwaith y cânt eu huwchraddio, rhaid sicrhau bod asedau a gefnogir gan y Cynllun hwn ar gael i weithredwyr masnachol drwy Gytundebau Mynediad Agored anghyfyngol‑o ran ecsclusifedd (neu drefniadau mynediad cyfwerth nad ydynt yn wahaniaethol).

Mae’r Cynllun hwn yn ategu’r Cynllun Grant Diwydiant 4G+ a ddisgrifir isod drwy alluogi’r seilwaith “gwesteiwr” sydd ei angen ar gyfer cyflwyno, a thrwy leihau’r rhwystrau sy’n gysylltiedig ag addasrwydd asedau, argaeledd pŵer ac ôl‑gludiant.

Bwriedir Cynllun Grant Diwydiant 4G+ i ddarparu cymorthdaliadau wedi’u targedu i Weithredwyr Rhwydweithiau Symudol (MNOs), gwesteiwyr niwtral a darparwyr seilwaith ar gyfer cyflwyno ac uwchraddio seilwaith symudol 4G a 5G mewn lleoliadau Heb Wasanaeth Llwyr (TNS) a Heb Wasanaeth Rhannol (PNS) sydd heb wasanaeth digonol yng Ngogledd Cymru.

Anogir ymgeiswyr Cynllun Gwella Asedau’r Sector Cyhoeddus 4G+ i ymgysylltu â’r diwydiant rhwydweithiau symudol er mwyn cydlynu gweithgareddau ar safleoedd lle gallai buddsoddiad fod ar gael drwy’r ddau gynllun.

Eligibility

Mae’r cynllun hwn yn agored i sefydliadau sector cyhoeddus sy’n berchen ar, yn gweithredu neu’n rheoli asedau cymwys yng Ngogledd Cymru ac sy’n gallu ymrwymo i Gytundeb Cyllido Grant gydag Uchelgais Gogledd Cymru.

Mae ymgeiswyr cymwys yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, cyrff iechyd, gwasanaethau brys, sefydliadau addysg bellach ac uwch, a chyrff sector cyhoeddus eraill.

Rhaid i brosiectau gael eu lleoli yng Ngogledd Cymru (Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint neu Wrecsam). Gellir caniatáu gwariant cyfyngedig y tu allan i’r rhanbarth lle bo hynny’n hanfodol i gyflawni amcanion rhanbarthol y prosiect.Caiff ceisiadau eu hasesu ar sail parodrwydd, cyflawnadwyedd, effaith, rhwymedigaethau mynediad agored, a gwerth am arian.

Rhaid i brosiectau ddangos ymrwymiad gan weithredwyr, gwariant cyfalaf cymwys, a chydymffurfiaeth â holl ofynion y cynllun. Cynlluniwyd y Cynllun i alluogi prosiectau newydd na ellir eu cyflawni heb gefnogaeth grant.Rhaid i brosiectau fod yn gyflawnadwy o fewn yr amserlenni cytunedig (erbyn Ionawr 2030) a dangos gwerth am arian, cynaliadwyedd, a chydymffurfiaeth â gofynion rheoli cymorthdaliadau a chydraddoldeb.Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yng Nghanllaw’r Cynllun Grant.

Details are copied from the official source and can change. Check the official listing before you apply. Grant Writing Company is not affiliated with this funder.

Want an expert to write it with you?

Grant Writing Company researches funders, writes organisation proposals to each funder's instructions, and checks the package before you submit. experience since 2006. Funders decide every award.

Book a free call See our services